Saethu ffesantod yn llwyddo ar ôl i ffarmwr arallgyfeirio
Cafodd David Owen, sy’n ffermio tua 230 acer ym Mhenbryn ar lannau blaenau afon Teifi ym Mronant ger Tregaron ei Wobr Arian yng Ngwobrau Helgig a Chadwraeth Purdey yn Llundain.
Gyda help grantiau Coetiroedd Gwell i Gymru gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, mae Mr Owen wedi troi Penbryn yn ddarlun o gyfuniad amaethyddol gan blannu coed a fydd yn gwella’r fferm a’r amgylchedd am flynyddoedd lawer.
Erbyn hyn, mae Mr Owen wedi paratoi cynllun rheoli yn dangos gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer y coetiroedd sy'n canolbwyntio ar gynaeafu coed conwydd ac ail blannu â choed llydanddail i gynyddu bioamrywiaeth a gwella'r fferm ar gyfer saethu.
Meddai Peter Jones, Swyddog Coetiroedd yn nhîm Grantiau a Rheoleiddio Comisiwn Coedwigaeth Cymru,
“Mae’r cynllun rheoli yn adeiladu ar waith cadwraeth cynefinoedd eithriadol David Owen dros nifer o flynyddoedd, yn gweithio gyda Chymdeithas Saethu Camddwr.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd tirfeddianwyr eraill yn gweld y gwaith yma ac yn ystyried plannu coetiroedd gan fanteisio ar grantiau newydd, hael, Glastir sydd ar gael gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.”
Bu teulu Mr Owen yn ffermio yn yr ardal ers dros ganrif. Plannodd goetir ar 5.5 hectar (tua 14 acer) nid yn unig i fod yn gysgod i'w ddefaid ac i gael pren i’w ddefnyddio ar y fferm ond hefyd fel cynefin i fywyd gwyllt a helgig. Yn ddiweddarach, cafodd 35 hectar (86 arall) arall o goetir at y fferm.
Mae’r coetiroedd erbyn hyn yn rhan o Gymdeithas Saethu Camddwr, sefydliad anfasnachol a gafodd ei sefydlu 50 mlynedd yn ôl sy'n ymestyn dros 3,000 o aceri a 25 fferm yng Ngheredigion. Mae ei gweithgareddau wedi gwella ffermydd cyfagos hefyd.
Bob blwyddyn, mae’r gymdeithas yn rhyddhau rhwng 500 a 700 o ffesantod yn ogystal â hwyaid gwyllt a phetris Ffrengig. Mae’r gïach, cwningod a sguthanod yno hefyd ac, ers ei sefydlu, mae’r ffordd y mae’r gymdeithas yn rheoli’r tir wedi denu cyffylog yn ôl i'r ardal. Mae’r gymdeithas yn gwahardd saethu ysgyfarnogod, sy’n prinhau yn yr ardal.
Mae cynllun grant Gwell Coetiroedd i Gymru wedi cau i ymgeiswyr newydd ond mae wedi ei ddisodli gan grant rheoli coetir newydd dan Glastir.
Am ragor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael i blannu coetir newydd, ffoniwch 0300 068 0300 a gofynnwch am dȋm coetir Glastir Comisiwn Coedwigaeth Cymru, e-bost bww.ts@forestry.gsi.gov.uk neu edrychwch ar lein ar www.forestry.gov.uk/glastirwoodland.
