Annog cymunedau i ddefnyddio pŵer dŵr
Mae Llywodraeth Cymru am weld grwpiau lleol yn gweithio gyda chwmnïau arbenigol i chwilio am safleoedd lle gallent ddatblygu cynlluniau pwer bychan (llai na 5MW), sy’n defnyddio dwr i gynhyrchu trydan adnewyddadwy.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n rheoli coetiroedd Llywodraeth Cymru, yn awr yn rhoi cyfle i bobl fynegi diddordeb yn sgil lansio prosiect pwer dwr yng Nghanolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan-y-Bwlch ger Porthmadog.
Cafodd cynrychiolwyr grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a chwmnïau datblygu cynlluniau pwer dwr masnachol glywed am fanteision posibl cynhyrchu trydan dwr yng nghoedwigoedd Llywodraeth Cymru cyn ymweld â chynllun ar dir preifat gerllaw.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy John Griffiths mai cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar lefel y gymuned yw un o’r conglfeini ar gyfer gwneud Cymru’n wlad rad-ar-garbon.
Meddai,
“Mae trydan dwr yn dechnoleg ddefnyddiol sydd eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gymysgedd ynni Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddangos y ffordd at ddyfodol gwirioneddol gynaliadwy ar gyfer ein plant trwy leihau ein hallyriadau CO2 a’n dibyniaeth ar danwydd ffosil.”
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn galluogi cymunedau i fedi’r buddiannau economaidd a ddaw o fod yn rhan o ddatblygiad cynllun pwer dwr sy’n sensitif i ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cydweithio’n glos â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i fynd â’r prosiect yn ei flaen. Mae’r Comisiwn yn siarad hefyd ag Ynni’r Fro – prosiect Ynni Adnewyddadwy Cymunedol sy’n cael ei ariannu gan Ewrop a’i noddi gan Lywodraeth Cymru – i wneud yn siwr bod cymorth ariannol a thechnegol ar gael yn rhwydd i grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau trydan dwr.
