Delio â mannau gwan band eang
Erbyn hyn, mae cysylltiad band eang gan fwy a mwy o ardaloedd a fu’n fannau gwan, sy’n lleihau’n sylweddol yr amser a dreulir arlein.
Mae Cynllun Cymorth Band Eang Llywodraeth Cymru yn golygu y gall unigolion, busnesau, mudiadau trydydd sector neu grwpiau mewn cymunedau a chanddynt gyflymdra lawr lwytho band eang o lai na dau Fegabeit yr eiliad (2Mbps) hawlio hyd at £1,000 i dalu costau prynu datrysiad band eang.
Gan y bydd y Ffurflen Gais Sengl arlein o 2014 ac elfennau gweinyddu busnes eraill fel adroddiadau treth yn cael eu gwneud arlein yn barod, mae’n bwysicach nac erioed fod busnesau fferm yn cynyddu effeitholrwydd trwy wneud defnydd o dechnoleg.
Mae cefnogaeth gan y Cynllun Cymorth Band Eang wedi galluogi cymunedau fel Llannon, Y Tymbl a Cross Hands i weithio gyda’i gilydd i ddatrys eu problemau band eang. Cymuned arall sydd newydd gael cysylltiad band eang am y tro cyntaf yw Felindre yng Nghwm Tawe.
Meddai Robert Turner o ResQ wireless broadband solutions:
“Erbyn hyn mae gan dros 75 o aelwydydd a busnesau yn Felindre gysylltiad band eang cyflym diolch i dechnoleg ddiwifr. Mae’r signal yn cael ei daflu o’r orsaf i fannau eraill yn y cylch. Ar yr amod fod un man, fel ffermdy, o fewn golwg i un arall, mae’r signal diwifr yn cael ei dderbyn.”
Yn ogystal â chysylltiad rhyngrwyd cyflymach sy’n cyflymu gwaith busnesau amaethyddol, mae cael rhyngrwyd cyflym iawn yn eich ffermdy yn cynnig manteision eraill hefyd. Mae band eang diwifr cyflym eXwavia yn galluogi ffermwyr i gadw golwg ar eu hanifeiliaid trwy fideo.
Erbyn hyn mae gan y ffermwr o Ynys Môn Peredur Hughes a’i fab Llyr ddarluniau fideo byw 24 awr o’u da byw trwy eu ffôn symudol neu gliniadur ac mae eu busnes fferm wedi cael ei chwyldroi.
Meddai Peredur:
“Pan feddyliwch chi faint o waith mae’n rhaid i ffermwyr ei wneud i fodloni gofynion deddfwriaeth llywodraeth, trwy ddarparu data a gwybodaeth da byw arlein, buan iawn y sylweddolwch pa mor bwysig yw cael cysylltiad band eang da.”
Er mwyn cael mwy o wybodaeth a sut i wneud cais i Gynllun Cymorth Band Eang Llywodraeth Cymru cysylltwch â 0300 060 3000.
