Glastir - ACRES 2012 – Dewis mis Mawrth; Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 31 Mai 2012
Atgoffir ffermwyr a wahoddwyd ar ddechrau mis Mawrth 2012 i gyflwyno cais am grant cymorth ACRES Glastir fod rhaid iddynt gyflwyno eu ffurflen gais a dogfennau cefnogol i’w Swyddfa Ranbarthol Taliadau Gwledig Cymru erbyn 31 Mai 2012.
Pan mae angen Cynllun Rheoli Maethynnau neu Ganiatâd Cynllunio, gellir cyflwyno’r dogfennau hyn gyda’r cais cyntaf. Fodd bynnag, mae angen i ffermwyr sylweddoli na ellir prosesu eu cais nes y darparwyd y dogfennau hyn ac y cadarnhawyd eu bod yn foddhaol.
Atgoffir ffermwyr hefyd na ddylent gychwyn ar y gwaith a nodir yn eu contract cyn i’w contract ACRES gael ei gynnig yn ffurfiol gan y byddai hynny’n gwneud unrhyw gynnig contract yn annilys.
Mae mwy o wybodaeth am ACRES ar gael o wefan Llywodraeth Cymru - Glastir ACRES.
